12/05/2007
Linkage da i chdi gid
http://concerts.wolfgangsvault.com/
canoedd ar canoedd o gigs anhygoel gan pobol fel Neil Young, Greatfull dead, duran duran
a mwy i wrando i am ddim, da chi gorfod bod yn aelod i wrando, ond mae o am ddim
ac bendant yn werth yr hastle!
11/05/2007
Bran di Bran bran bran
mae na dipin o hanes tu ol ir band ma, Line Ups gwahanol, y faith bod odd ganddynt ferch fel drummar ect ect..oedd un can ar y casgliad Welsh rare beat, ond yn bendant ddim y can ore o bell ffordd....i rheini sydd yn poeni, ath nest Howells ymlaen i ganu hefo Pererin, nath John Gwyn helpy datblygu rhaglen "The Tube" ac Dafydd Roberts yw penaeth Sain ar ol Yrfa llwythianys iawn hefor band Ar - Log....
maer albym yma wedi ei postio gan y blog PrognotFrog....
mwynhewch
01 - Y Ddor Ddig (3:30)
02 - F'Annwyl Un (3:01)
03 - Y Gwylwyr (3:00)
04 - Wrth Y Ffynnon (4:19)
05 - Myfyrdod (2:27)
06 - Rhodiaf Hen (2:19)
07 - Lwybrau (2:44)
08 - Mor Braf (2:54)
09 - Caledfwich (3:03)
10 - Blodyn (3:45)
11 - Y Crewr (3:36)
12 - Breud Dwyd (4:04)
Line-up
- John Gwyn / Guitars, Vocals
- Nest Howells / Vocals, Keyboards
- Gwyndaf Roberts / Guitar
- Dafydd Meirion / Drums, Flute
Link: http://tinyurl.com/yeus38
Mistar Meic Stevens!!!
na Albun Cymraeg Gyntaf Meic stevens sef Gwymon!!! mae hon yn album hollol wych a werth chweil i gael, mae hon ar label Dryw o 1972...cafodd yr Lp i rhoi fynny gan y Blog anhygoel
"Grown so Ugly", lle gwych i cael Lp's Prin Psych a Folk o pob wlad a iaith...
Dyma bach o hanes Meic..wedi ei ddwyn o Wefan BBC
Canwr, 'Taid' y sin yng Nghymru
Fe'i ganed yn 1942 yn Solfa ac yno y cafodd ei fagu. Bu harddwch naturiol a thraddodiad morol yr ardal, yn ogystal â'i chymeriadau a'i deulu, yn ddylanwad mawr ar ei ffordd o weld y byd a themâu ei ganeuon.
Fe'i addysgwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, a dechreuodd chwarae'r gitâr yn ei arddegau, gan chwarae mewn bandiau sgiffl lleol. Mynychodd Goleg Celf Caerdydd yn 1958, ac yno, ac yng nghlybiau a thafarndai dociau'r brifddinas y cafodd ei wir addysg.
Fe'i cyfareddwyd gan fwrlwm ac amrywiaeth y sîn jazz, blues a gwerin, ac yn fuan roedd wedi dysgu chwarae yn idiom y gwahanol arddulliau. Yn ôl ysbryd yr oes, teithiai i berfformio ledled Prydain, a rhydd ei hunangofiant bortread byw o fyw yn yr eiliad yng nghyffro cyfnod trawsnewidiol y 1960au.
Gan mai Saeseneg oedd prif iaith aelwyd ei fagwraeth, yn yr iaith honno y dechreuodd gyfansoddi caneuon, a rhyddhawyd ambell i sengl ganddo yng nghanol y 60au, na wnaeth lawer o argraff ar y siartiau Seisnig. Er hynny, roedd ei enw wedi tyfu yn y cylchoedd gwerin, ac yn honedig fe'i disgrifiwyd gan Bob Dylan fel 'the best folk singer in the world'.
Gwelai sgowtiaid y cwmni recordiau rhyngwladol, Warner Brothers, ddigon o addewid i gynnig cytundeb iddo gwerth degau o filoedd o bunnoedd, swm enfawr bryd hynny. Nid yw'n swm mor wael heddiw chwaith! Canlyniad hyn oedd y record hir 'Outlander' (1970), casgliad a ddangosai ddylanwad seicadelig y cyfnod, ond hefyd yr elfennau a nodweddai gymaint o'i gerddoriaeth orau - dychymyg cerddorol dwys a delweddiaeth eiriol syfrdanol.
Yr un fu hanes y record honno a'i senglau cynharach, fodd bynnag, ac ni lwyddodd i wneud argraff ar y siartiau.
Erbyn hynny, roedd teledu Cymraeg wedi ei eni, ac yn ei sgîl cafodd gynnig gwaith yng Nghymru yn y Gymraeg. Roedd eisoes wedi recordio cyfieithiadau o'i ganeuon Seisnig, megis 'Yr Eryr a'r Golomen' a 'Cân Walter'.
Creodd dipyn o argraff ar y sîn Gymraeg gyda'i ymddangosiad trawiadol a chaneuon a ddaliai naws a phrotest yr oes, megis 'Tryweryn' ac 'Ysbryd Solfa', ynghyd â'i awydd i fyw bywyd i'r eithaf.
Prin y pylodd y dylanwad cynnar hwnnw ar y sîn. Yn raddol, daeth ei ganeuon yn fwy seiliedig ar brofiad personol, a chanodd yn helaeth i goffa hen gydnabod a theulu a ffigurau a gyffyrddodd ei fywyd mewn rhyw ffordd. Yn wir gellid gwrando ar straeon ei ganeuon megis hunangofiant clywedol amgen. Nid oedd ofn arno chwaith i fynd i'r afael â phynciau anodd, dirdynnol tor-perthynas fel yn achos un o'i ganeuon enwocaf, 'Môr o Gariad', a marwolaeth, nag ychwaith ganeuon a ddathliai joio byw yn ei ffordd ddihafal ei hun.
Mae ei gasgliadau yn y Gymraeg yn cynnwys 'Gwymon' (1972), 'Meic a'r Bara Menyn' (1973), 'Gog' (1977), 'Nos Du, Nos Da' (1982), 'Lapis Lazuli' (1983), 'Gitar yn y Twll Dan Stâr' (1983), 'Gwin a Mwg a Merched Drwg' (1987), 'Whare'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur)' (1991), 'Er Cof am Blant y Cwm' (1993) a 'Mihangel' (1997).
Mae'n anodd dychmygu sut olwg fyddai ar y sîn Gymraeg heddiw hebddo, ac mae'n parhau i gyfareddu cynulleidfaoedd mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru.
Dathlodd Meic Stevens ei benblwydd yn 65 oed ym mis Mawrth 2007. Cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu'r achlysur yn y Gyfnewidfa Lo ym mae Caerdydd, lle daeth y band Bara Menyn yn ôl at ei gilydd i berfformio ar y noson, gyda Heather Jones a Geraint Jarman yn canu gyda Meic am y tro cyntaf ers y 1970au.
Meic Stevens - Gwymon
http://www.rapidshare.com/files/7116636/gwymon.zip.html/
Blogiwch y Byd
sydd yn perthnasol!!! cawn weld syd mae hin mynd de!